Adnoddau ar gyfer athrawon
Rydym wedi cynllunio’r adnoddau a’r cynlluniau gwersi hyn i addysgu plant am Gyfrifiad 2021, yn yr ystafell ddosbarth ac ar gyfer dysgu o bell.
Cewch fwynhau adnoddau addysg newydd gwych y cyfrifiad, y gellir eu defnyddio cyn i’r boblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2021 gael ei chyhoeddi ar ddechrau haf 2022.
Ynghyd ag adnoddau 2021, byddant yn cefnogi addysgu yn Lloegr mewn meysydd pwysig yn y cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys mathemateg, Saesneg, hanes, daearyddiaeth, celf a dylunio a chyfrifiadura.
Yng Nghymru, bydd yr adnoddau hyn hefyd yn cefnogi addysgu mewn meysydd pwysig yn y cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys mathemateg a rhifedd, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, y dyniaethau a’r celfyddydau mynegiannol.
Mae’r gweithgareddau yn cwmpasu Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2 yng nghwricwlwm Lloegr. Maent hefyd yn cwmpasu cwricwlwm Cymru o oed meithrin a derbyn i Gyfnod Allweddol 2. Mae adnoddau arbennig ar gyfer Blwyddyn 6 hefyd.