Y cyfrifiad yw’r ffynhonnell fwyaf cyflawn o wybodaeth am ein poblogaeth. Bob 10 mlynedd, mae wedi bod yn rhoi darlun manwl o’n cymdeithas ers 1801.
Mae’r wybodaeth a gawn yn hanfodol bwysig i awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol, yn ogystal â’r llywodraeth, busnesau ac academyddion.
Mae data’r cyfrifiad yn helpu’r grwpiau hyn i ddeall anghenion ein cymdeithas, nawr ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn helpu gyda gwaith cynllunio a dyrannu adnoddau, wrth greu cipolwg i genedlaethau’r dyfodol edrych yn ôl arno.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae troi’r wybodaeth a gasglwyd o’r cyfrifiad yn ystadegau cyhoeddedig yn dasg enfawr sy’n cynnwys llawer o gamau. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi bod yn gweithio’n galed drwy’r holl gamau hyn. Mae’n gwneud hyn er mwyn sicrhau bod yr ystadegau o’r safon uchaf ac yn cynrychioli’r boblogaeth gyfan, nid yn unig y rhai a wnaeth gwblhau’r holiadur. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr data’r cyfrifiad ymddiried yn yr ystadegau wrth eu defnyddio fel sail i’w penderfyniadau.
Bydd canlyniadau cyntaf y cyfrifiad ar gael ar ddechrau haf 2022, gyda chyhoeddiad am boblogaeth Cymru a Lloegr. Darllenwch fwy am y camau y mae SYG yn eu cymryd yn Census 2021 – the count is done, the data is in, so what happens next? ar wefan blog SYG.
Cael gafael ar ddata lleol o gyfrifiadau gyda Nomis
Gallwch bersonoli eich gwersi â data lleol o gyfrifiadau blaenorol. I archwilio a lawrlwytho’r data hyn, gallwch ddefnyddio gwefan cronfa ddata SYG, sef Nomis. Yna gallwch greu siartiau cylch a siartiau bar lliwgar â’n hadnodd creu siartiau am ddim.
Darganfyddwch fwy