Beth yw Cyfrifiad 2021?
Arolwg sy'n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Cafodd y cyfrifiad diwethaf ei gynnal ddydd Sul 21 Mawrth 2021 a chafodd ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Mae'r cyfrifiad yn unigryw. Nid oes unrhyw beth arall sy'n rhoi cymaint o fanylion amdanom ni a'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.
Mae'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i'w helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd fel trafnidiaeth, addysg a gofal iechyd.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifiad, ewch i wefan y cyfrifiad.
Beth yw Gadewch i ni Gyfrif!?
I gefnogi Cyfrifiad 2021, mae SYG yn gweithio mewn partneriaeth â'r ganolfan adnoddau addysg, iChild. Gyda'n gilydd rydym wedi datblygu rhaglen adnoddau addysg gyffrous am ddim i helpu i addysgu plant am y digwyddiad unigryw hwn. Mae'n rhaglen drawsgwricwlaidd, gan ddefnyddio mathemateg yn bennaf, ac mae'n cwmpasu Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar, y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2 gydag adnoddau penodol ar gyfer Blwyddyn 6. Mae rhaglen adnoddau Gadewch i ni Gyfrif! wedi cael ei hachredu gan Mathematics in Education and Industry (MEI), y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysgu Saesneg (NATE) a'r Gymdeithas Ddaearyddol ac mae wedi ennill y wobr am Raglen Addysg STEM y Flwyddyn. Gall y rhaglen addysg hon sy'n hawdd ei defnyddio helpu i wella sgiliau mathemateg ac ysgrifennu, gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021, digwyddiad pwysig mewn bywyd go iawn, fel sbardun. Yn newydd ar gyfer 2022 mae pum adnodd addysg gwych y cyfrifiad, y gellir eu defnyddio cyn cyhoeddi'r boblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2021 ar ddechrau haf 2022.
Sut y gallaf gofrestru ar gyfer Gadewch i ni Gyfrif!?
Gall ysgolion gofrestru ar gyfer yr adnoddau digidol am ddim ar dudalen cofrestru Gadewch i ni Gyfrif!.
Os nad oes llawer o amser gen i, pa adnoddau y dylwn i eu defnyddio gyda fy nisgyblion?
Mae pum adnodd addysg gwych newydd y cyfrifiad ar gyfer 2022, y gellir eu defnyddio cyn cyhoeddi'r boblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2021 ar ddechrau haf 2022. Rydym wedi cyflwyno'r rhain mewn trefn a argymhellir. Os mai dim ond amser i gynnal un wers sydd gennych chi, byddem yn awgrymu'r wers gyntaf, ‘Beth allwn ni ei ddysgu o'r cyfrifiad?’.
A allaf gymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif! o hyd os caiff cyfyngiadau symud pellach eu rhoi ar waith neu os bydd fy ysgol yn cau oherwydd COVID-19?
Gallwch. Rydym wedi datblygu rhaglen addysg Gadewch i ni Gyfrif! fel bod yr adnoddau yn hyblyg ac yn arbed amser. Rydym hefyd wedi'u cynllunio i gefnogi eich ysgol drwy bandemig y coronafeirws fel rhan o'ch cwricwlwm adfer. Felly, gallwch eu defnyddio i addysgu plant yn yr ystafell ddosbarth a gartref. Y nod yw helpu i ailennyn diddordeb plant a theuluoedd mewn dysgu a dathlu eich cymuned leol. Pe bai rhagor o gyfyngiadau symud, gallech ddefnyddio'r gwersi fideo a'r cyflwyniadau PowerPoint hefyd.
Sut y gallaf ledaenu'r neges am Gyfrifiad 2021 i rieni gartref?
Gallwch helpu i ledaenu'r neges am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 a Gadewch i ni Gyfrif! drwy ddefnyddio eich sianeli cyfryngau cymdeithasol a'ch sianeli cyfathrebu uniongyrchol â rhieni. Rydym wedi darparu templedi ar wefan Gadewch i ni Gyfrif! i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol i'ch helpu chi.
 phwy y gallaf gysylltu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnaf?
E-bostiwch dîm cyfrifiad iChild os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os bydd angen help arnoch gyda'r adnoddau neu'r wefan.