Sylwadau o ymarfer y cyfrifiad yn 2019
“
Bu’r plant yn astudio’r cyfrifiad ac yn dysgu am ei werth wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Roeddent yn frwdfrydig iawn wrth ddysgu am swyddi’r gorffennol ac wrth geisio dychmygu’r dyfodol. Cafwyd cyfle i ystyried a thrafod sut mae cwestiynau’r cyfrifiad wedi newid dros y blynyddoedd a thrafod y rhesymau dros hyn. Fel rhan o weithgareddau’r dosbarth, penderfynodd y plant y byddent yn hoffi gwneud cyfrifiad o wybodaeth bersonol e.e. taldra, maint traed, lliw llygaid, nifer y bobl yn y teulu ayb, ac yna aethant ati i gynllunio holiadur ac ar ôl casglu’r wybodaeth, buont yn coladu’r wybodaeth a chreu graffiau i ddangos eu canlyniadau. Gwnaethant rywbeth tebyg wrth astudio’r drafnidiaeth y tu allan i’r ysgol a thrychfilod yn yr ardd. Gwnaethant sylwi bod amser y dydd yn cael effaith ar y traffig a bod y tywydd yn cael effaith ar ba drychfilod oedd i’w canfod yn yr ardd.
Ysgol Llanfarian, Ceredigion
“Cymerodd yr ysgol gyfan ran yn ein diwrnod Gadewch i ni Gyfrif! Penderfynodd pob dosbarth beth roeddent am ei gyfrif a sut y byddent yn gwneud hyn. Roedd yn cynnwys llawer o brofiadau, fel mynd am dro drwy’r pentref, cynnal arolygon ac edrych ar ddata cyfrifiad blaenorol!”
Ysgol Gynradd Burgh by Sands, Caerliwelydd
”
Canllaw yn unig yw’r rhestr hon, gallwch ddewis cyfrif unrhyw beth?
- Cyfrif camau taith gerdded er mwyn hybu ffordd iach o fyw
- Cyfrif adar neu anifeiliaid er mwyn cefnogi elusen bywyd gwyllt leol
- Cyfrif llyfrau a ddarllenir er mwyn helpu llyfrgell leol
- Cyfrif coed er mwyn cefnogi menter natur leol
- Cyfrif eitemau o sbwriel plastig er mwyn cefnogi prosiect lleol ar yr amgylchedd
- Cyfrif y gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan y plant i deithio i’r ysgol er mwyn annog mwy o gerdded neu feicio
- Cyfrif ceir er mwyn cefnogi croesfan newydd i gerddwyr
- Cyfrif chwaraeon gwahanol a gaiff eu chwarae er mwyn hyrwyddo canolfan chwaraeon lleol
- Cyfrif pensiliau neu eitemau yn yr ysgol er mwyn cynnal archwiliad o ddeunydd ysgrifennu








Enillwch wobrau gwych
Enillydd Cyffredinol: £1,000 o gyfarpar STEM o Tech Will Save Us. Yn ogystal, byddwch yn cael ymweliad gan yr Ystadegydd Gwladol ac yn cyhoeddi poblogaeth newydd Cymru a Lloegr yng Nghyfrifiad 2021 am y tro cyntaf.
Enillwyr Ardal: 9 x £250 o gyfarpar STEM o Tech Will Save Us.