About Let’s Count
Bydd eich pecyn adnoddau Gadewch i ni Gyfrif! dwyieithog am ddim yn cynnwys:
- Mynediad llawn i wefan Gadewch i ni Gyfrif!, gan gynnwys data cyfrifiad blaenorol am eich ardal leol ac adnodd creu siartiau am ddim. Bydd hwn yn eich galluogi i greu siartiau cylch a siartiau bar lliwgar.
- Dewis o 14 o gynlluniau gwersi dwyieithog hawdd eu defnyddio yn cwmpasu meysydd allweddol yng nghwricwlwm Cymru a Lloegr. Bydd y cynlluniau gwersi yn helpu i addysgu plant am bwysigrwydd y cyfrifiad a’r ffordd y bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu yn helpu’ch ysgol a’ch ardal leol. Gall athrawon ddewis pa wersi i’w defnyddio. Byddwch yn cael llyfryn a chewch ddefnyddio adnoddau ar-lein. Mae’r gwersi wedi’u hachredu gan MEI, NCETM, NATE a’r Gymdeithas Ddaearyddol.
- Sleidiau PowerPoint y gellir eu haddasu, i gefnogi pob cynllun gwers, a fydd yn eich galluogi i deilwra gwersi ar gyfer eich dosbarth.
- Gwersi fideo arfer gorau arbennig gan Arbenigwr ar Fathemateg Cynradd yn MEI ar y pynciau ‘Y GIG a’r cyfrifiad’, a ‘Beth yw’r cyfrifiad?’. Gallwch ddefnyddio’r gwersi fideo hyn i addysgu plant yn uniongyrchol yn yr ysgol neu gartref, neu er mwyn helpu athrawon mathemateg i baratoi gwersi.


Gwers fideo fyw arbennig gan yr Athro David Olusoga ar y pwnc ‘Cydraddoldeb, cynrychiolaeth a’r cyfrifiad’ gyda chynllun gwers a chyflwyniad PowerPoint ategol.
Sesiwn fideo datblygu proffesiynol gan MEI sy’n unigryw i Gadewch i ni Gyfrif! Bydd y sesiwn hon yn trafod y cynnydd mewn ystadegau ar draws y blynyddoedd cynradd. Bydd y sesiwn yn dangos sut y gellir gwneud cysylltiadau â meysydd eraill yn y cwricwlwm mathemateg a rhifedd, o rifau yn y Cyfnod Sylfaen ymlaen i ffracsiynau, degolion, canrannau a geometreg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2. Bydd y gweithgareddau yn trafod y ffordd y gall defnyddio mathemateg a rhifedd i ddehongli data’r cyfrifiad adeiladu dyfodol gwell i ni ein hunain a’r bobl yn ein cymuned.
Cyflwyniad Gadewch i ni Gyfrif! (sleidiau PowerPoint y gellir eu haddasu) i’w ddefnyddio mewn gwasanaeth er mwyn cyhoeddi’r rhaglen.
Prosiect dysgu yn y cartref a deunydd i’r plant a’u rhieni fynd ag ef adref.
Deunyddiau a phosteri lliwgar i’w harddangos yn yr ystafell ddosbarth.
Sticeri a thystysgrifau i wobrwyo’r plant am gymryd rhan.
Cofrestrwch heddiw!
Ar ôl cofrestru, bydd ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn cael eu pecynnau o fewn 14 diwrnod, yn barod ar gyfer y cyfrifiad ddydd Sul 21 Mawrth 2021.
Rydym yn edrych ymlaen at weld eich ysgol yn cymryd rhan yn y fenter gyffrous hon.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm cyfrifiad iChild yn census@ichild.co.uk.