GWYBODAETH I RIENI
Arolwg sy’n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw’r cyfrifiad ac mae’n rhoi darlun i ni o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal. Cafodd y cyfrifiad ei gynnal ddydd Sul 21 Mawrth 2021.
Drwy gymryd rhan, gwnaethoch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed sy’n golygu y gall eich cymuned gael y gwasanaethau sydd eu hangen arni.
Rhaglen addysg arbennig i addysgu plant am y cyfrifiad yw Gadewch i ni Gyfrif! wrth i ni symud o gasglu gwybodaeth yn y cyfrifiad i gyhoeddi’r canlyniadau.
Mae’n cynnwys gwersi i gefnogi dysgu eich plentyn mewn meysydd pwysig yng nghwricwlwm Cymru a Lloegr. Mae rhaglen Gadewch i ni Gyfrif! yn esbonio pam mae’r cyfrifiad mor bwysig, a’r ffordd y bydd llenwi holiadur y cyfrifiad yn helpu i lywio dyfodol plant.
Yn newydd ar gyfer 2022 mae pum adnodd addysg gwych y cyfrifiad. Gall ysgol eich plentyn ddefnyddio’r rhain yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi’r boblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2021 ar ddechrau haf 2022.