CEFNDIR
1. a) Caiff rhaglen addysg ysgolion cynradd Cyfrifiad 2021 (‘y Rhaglen’) a Chystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif! (‘y Gystadleuaeth’) eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd wedi’i lleoli yn 1 Drummond Gate, Pimlico, Llundain SW1V 2QQ (‘yr Hyrwyddwr’, ‘rydym’, ‘ni’).
2. b) Drwy wneud cais i gymryd rhan neu gymryd rhan yn y Rhaglen a/neu gyflwyno cais i’r Gystadleuaeth, rydych yn (i) cytuno i fod yn rhwym wrth y telerau a’r amodau hyn (‘Y Telerau ac Amodau’) a (ii) cadarnhau eich bod wedi cael caniatâd eich ysgol i wneud hynny. Mae’r holl gyfarwyddiadau cystadlu yn rhan o’r Telerau ac Amodau hyn.
3. c) Gall yr Hyrwyddwr, yn ei ddisgresiwn llwyr, wrthod dyfarnu unrhyw wobr i unrhyw ymgeisydd sy’n methu cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn.
4. d) Rhaid i’r holl unigolion sy’n cwblhau cais i gymryd rhan yn y Rhaglen neu’r Gystadleuaeth feddu ar awdurdod eu hysgol i dderbyn y Telerau ac Amodau hyn, gwneud cais i gymryd rhan yn y Rhaglen a chyflwyno’r cais neu’r ceisiadau perthnasol i’r Gystadleuaeth. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddilysu unrhyw awdurdod o’r fath cyn darparu pecynnau adnoddau a/neu ddyfarnu unrhyw wobr.
CYMHWYSEDD
1. Mae’r Rhaglen a’r Gystadleuaeth yn agored i athrawon ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru a Lloegr. Bydd ceisiadau i’r Gystadleuaeth a cheisiadau i gofrestru ar y Rhaglen gan ysgolion y tu allan i’r ardaloedd hyn yn annilys.
CYFNOD Y GYSTADLEUAETH
2. Bydd y Gystadleuaeth yn dechrau am 7.00am ddydd Llun 4 Ionawr 2021 (‘Dyddiad Dechrau’) ac yn cau am 11.59pm nos Wener 23 Ebrill 2021 (‘Dyddiad Cau’). Bydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau yn annilys. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan yn y Gystadleuaeth er mwyn cymryd rhan yn y Rhaglen. Gallwch weithio ar eich cais i’r Gystadleuaeth unrhyw bryd cyn Dyddiad Dechrau’r Gystadleuaeth ond ni ddylech gyflwyno eich cais i’r Gystadleuaeth cyn y Dyddiad Dechrau.
SUT I GYMRYD RHAN YN Y RHAGLEN
3. a) Ewch i wefan gofrestru’r Rhaglen a nodwch yr holl fanylion gofynnol, gan gynnwys eich manylion cyswllt, enw’r ysgol a chyfeiriad yr ysgol.
b) Unwaith y derbynnir yr holl fanylion, caiff y pecyn adnoddau addysg ei anfon atoch o fis Ionawr 2021, yn amodol ar argaeledd.
c) Dim ond hyn a hyn o becynnau sydd ar gael a chânt eu hanfon ar sail y cyntaf i’r felin.
SUT I GYMRYD RHAN YN Y GYSTADLEUAETH
4. I gymryd rhan yn y Gystadleuaeth, rhaid i chi wneud y canlynol:
i) darllen y telerau ac amodau hyn a chytuno iddynt,
ii) cwblhau a chyflwyno ffurflen gais y Gystadleuaeth ar wefan y Gystadleuaeth,
iii) darparu un neu fwy (dim mwy na 6) o ddelweddau neu fideo yn dangos yr arddangosiad a grëwyd gan y plant yn yr ysgol,
iv) darparu dim mwy na 150 o eiriau yn disgrifio’r hyn y gwnaethoch ei gyfrif yn yr ysgol a pham y mae o bwys i chi.
v) os caiff delweddau neu ffilm fideo o bobl eu cynnwys yn y cais i’r Gystadleuaeth, rhoi gwybod i’r bobl hynny, neu roi gwybod i’w rhieni/gwarcheidwaid os mai disgyblion ydynt, a’u cyfeirio at hysbysiad preifatrwydd SYG (ar gael yn gadewchinigyfrif.org.ukneu yn http://www.letscount.org.uk/. Fel arall ni ellir cynnwys eu delweddau yn y cais i’r Gystadleuaeth),
vi) cadarnhau bod yr holl waith sydd wedi’i gynnwys yn y cais i’r Gystadleuaeth yn cydymffurfio â’r rheolau cynnwys ar gyfer ceisiadau i’r Gystadleuaeth a ddarperir ym mhecyn y Rhaglen a anfonir atoch (‘Rheolau Cynnwys’) a’r Telerau ac Amodau hyn.
5. Rhaid i chi hefyd ddarparu unrhyw wybodaeth arall a chydweithredu â’r Hyrwyddwr a’i asiantiaid yn unol ag unrhyw gais rhesymol a geir mewn perthynas â’r Gystadleuaeth.
6. Caniateir i bob ysgol gynradd gyflwyno hyd at 3 chais. Os byddwn yn cael mwy na 3 chais gan yr un ysgol gynradd, byddwn ond yn cynnwys y 3 cyntaf a gawsom yn y Gystadleuaeth.
7. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn cyfrifoldeb am geisiadau i’r Gystadleuaeth sy’n mynd ar goll, yn cael eu difrodi neu eu hoedi ar y ffordd, yn anghyflawn, yn annarllenadwy neu na ellir eu gweld, ni waeth beth fo’r rheswm dros hyn, gan gynnwys, er enghraifft, o ganlyniad i fethiant cyfarpar, diffyg technegol, problemau gyda systemau, lloeren, rhwydwaith neu weinydd, neu fethiant caledwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol o unrhyw fath.
8. Drwy gyflwyno cais i’r Gystadleuaeth, byddwch yn cadarnhau bod gennych yr holl hawliau angenrheidiol, ynghyd â phob cydsyniad a chaniatâd angenrheidiol gan yr ysgol, gan aelodau o staff ac unigolion eraill sydd wedi’u cynnwys yn y cais i’r Gystadleuaeth a gan rieni neu warcheidwaid yr holl blant a enwir neu a ddangosir yn y cais.
9. I gael cymorth gyda cheisiadau i’r Gystadleuaeth, e-bostiwch census@ichild.co.uk.
RHEOLAU CYNNWYS AR GYFER CEISIADAU I’R GYSTADLEUAETH
10.Rhaid i’ch cais i’r Gystadleuaeth gydymffurfio â’r Rheolau Cynnwys isod. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ofyn am dystiolaeth o ganiatâd perthnasol cyn dyfarnu unrhyw wobr.
Y BROSES FEIRNIADU
11. Bydd ceisiadau’n mynd drwy’r broses feirniadu ganlynol:
Cam 1
o Bydd pob cais dilys o ysgol gymwys yn cael ei asesu gan drydydd parti annibynnol (‘yr Asiantaeth’), a benodir gan yr Hyrwyddwr, gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol a ystyrir yn gyfartal: a) Ansawdd y prosiect cyfrif a’r ffordd y mae o bwys i’r ysgol b) Ansawdd a chreadigrwydd yr arddangosiadau a gyflwynir ac c) Lefel ac ansawdd mewnbwn y disgyblion yn y cais a gyflwynir, yn seiliedig ar oedran y plant a gymerodd ran.
o Bydd yr Asiantaeth yn cyflwyno rhestr fer o 5 cais o bob ardal i’r Hyrwyddwr. Bydd hyn yn cynnwys (lle y bo’n bosibl ac yn ôl disgresiwn yr Asiantaeth) 5 ysgol fesul ardal (h.y. Cymru a 9 rhanbarth Lloegr)
o Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganiatáu i’r Asiantaeth gynnwys llai na 5 ysgol fesul ardal ar y rhestr fer (neu fwy na 5 mewn ardal arall) os nad oes digon o geisiadau dilys neu geisiadau o ansawdd digonol, neu os bydd o’r farn bod hyn yn briodol yn unol â’i disgresiwn llwyr. Ni chaiff mwy na 50 o ysgolion eu cynnwys ar y rhestr fer.
Cam 2
o Bydd y ceisiadau a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cael eu beirniadu gan banel ag o leiaf 5 beirniad, gan gynnwys uwch-aelodau o staff yr Hyrwyddwr ac o leiaf un beirniad annibynnol, gan ddefnyddio’r un meini prawf â Cham 1.
o Bydd y panel yn dewis un enillydd o bob un o’r 10 ardal (enillwyr ardal), ac enillydd cyffredinol o blith y 10 enillydd ardal.
o Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Ni ymatebir i unrhyw ohebiaeth.
Bydd yr enillydd cyffredinol a’r enillwyr ardal (‘yr Ymgeiswyr Buddugol’) yn cael gwybod am eu llwyddiant dros y ffôn neu drwy e-bost gan ddefnyddio manylion cyswllt yr ysgol a’r enw a ddarparwyd yn y cais i’r Gystadleuaeth, ar 18 Mehefin 2021 (‘y Dyddiad Hysbysu’) neu cyn y dyddiad hwnnw.
12. Bydd disgwyl i’r Ymgeiswyr Buddugol gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddusrwydd ar ôl y gystadleuaeth, fel y pennir gan yr Hyrwyddwr, os bydd angen.
Y WOBR
13. Bydd hyd at un enillydd ardal ar gyfer pob un o’r 10 ardal (y bydd un ohonynt yn cael ei ddyfarnu’n enillydd cyffredinol) gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau a ddaw i law a’u hansawdd. Ni chaiff mwy nag un wobr ei dyfarnu fesul enillydd ardal. Ym mhob achos, caiff y wobr ei dyfarnu i ysgol yr unigolyn a gyflwynodd y cais i’r Gystadleuaeth, yn hytrach nag unrhyw aelod(au) o staff, disgybl(ion), grŵp neu ddosbarth. Dim ond y brif wobr fydd yr enillydd cyffredinol yn ei hennill – ni fydd yn cael gwobr yr enillydd ardal hefyd. Dim ond gwobr yr enillydd ardal fydd y 9 enillydd ardal sy’n weddill yn ei chael (heblaw’r enillydd ardal a ddewisir i ennill y brif wobr).
Prif Wobr i’r enillydd cyffredinol:
- Gwerth £1,000 o gyfarpar a ddewisir gan yr Hyrwyddwr;
Gwobr i bob enillydd ardal (ac eithrio’r enillydd ardal a ddewisir fel yr enillydd cyffredinol):
- Gwerth £250 o gyfarpar a ddewisir gan yr Hyrwyddwr;
Caiff rhagor o fanylion am y gwobrau eu darparu gan yr Hyrwyddwr cyn Dyddiad Dechrau’r Gystadleuaeth.
14. Caiff gwobrau eu dyfarnu i ysgol yr Ymgeiswyr Buddugol o fewn 30 diwrnod i’r Dyddiad Hysbysu.
15. Mae’r Ymgeiswyr Buddugol yn gyfrifol am roi’r holl fanylion angenrheidiol a pherthnasol i’r Hyrwyddwr sy’n ofynnol er mwyn darparu’r gwobrau.
16. Mae’r gwobrau fel yr hyn a nodir yn unig ac ni ellir eu gohirio na’u trosglwyddo. Ni ellir cael arian parod yn eu lle. Dylai unrhyw hawliadau gwarantiad neu hawliadau eraill yn ymwneud â diffygion gyda’r cyfarpar a roddwyd fel gwobrau gael eu cyfeirio at y gwneuthurwr sy’n cyflenwi’r wobr. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddarparu gwobr amgen, gyfwerth resymol sydd yr un pris neu’n fwy, yn lle’r wobr a nodwyd, os bydd amgylchiadau’n gwneud hyn yn ofynnol (er nad oes rhwymedigaeth arno i wneud hynny).
HAWLIO’R WOBR
17. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddewis enillydd arall os na fydd unrhyw Ymgeisydd Buddugol yn hawlio’r wobr berthnasol o fewn 14 diwrnod yn dilyn y Dyddiad Hysbysu, neu os canfyddir bod y cais i’r Gystadleuaeth yn torri unrhyw rai o’r Telerau ac Amodau hyn.
18. Ni ddylai Ymgeiswyr Buddugol drafod canlyniadau’r Gystadleuaeth ag unrhyw drydydd parti (gan gynnwys negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol) oni bai a than y ceir caniatâd penodol gan yr Hyrwyddwr.
PERCHNOGAETH DROS GEISIADAU I’R GYSTADLEUAETH A HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL
19. Nid yw’r Hyrwyddwr yn hawlio unrhyw hawliau perchnogaeth dros unrhyw gais i’r Gystadleuaeth.
20. Rydych yn cytuno y gall yr Hyrwyddwr, ond nad yw’n ofynnol iddo, gyhoeddi eich cais ar ei wefan ac ar unrhyw gyfryngau eraill, boed yn hysbys nawr neu’n rhai a ddyfeisir yn y dyfodol, ac mewn perthynas ag unrhyw weithgareddau cyhoeddusrwydd sy’n ymwneud â’r Gystadleuaeth a’r Rhaglen. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i olygu unrhyw gais i’r Gystadleuaeth cyn ei gyhoeddi os yw o’r farn y byddai’n ei wneud yn agored i hawliadau cyfreithiol oherwydd tor rheolau eiddo deallusol.
21. Rydych yn rhoi (a byddwch yn sicrhau bod unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r cais i’r Gystadleuaeth yn rhoi) trwydded unigryw, byd-eang a di-alw’n-ôl i’r Hyrwyddwr ar gyfer cyfnod llawn unrhyw hawliau eiddo deallusol yn ymwneud â’r cais i’r Gystadleuaeth ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig, i wneud y canlynol (ym mhob cyfrwng): defnyddio, arddangos, cyhoeddi, trosglwyddo, darlledu, copïo, golygu, addasu, storio, ailfformatio, atgynhyrchu mewn unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo ac is-drwyddedu’r cais i’r Gystadleuaeth ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig er mwyn sicrhau bod eich cais ar gael ar ei wefan ac ar unrhyw gyfryngau eraill, boed yn hysbys nawr neu’n rhai a ddyfeisir yn y dyfodol, ac mewn perthynas ag unrhyw weithgareddau cyhoeddusrwydd sy’n ymwneud â’r Gystadleuaeth a’r Rhaglen.
22. Ni chaiff ceisiadau eu dychwelyd atoch.
DIOGELU DATA A CHYHOEDDUSRWYDD
23. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd sydd ar gael yn www.gadewchinigyfrif.org.uk neu yn www.letscount.org.uk i gael manylion am y ffordd rydym yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ac unrhyw wybodaeth bersonol a all fod wedi’i chynnwys yn eich cais i’r Gystadleuaeth.
CYFFREDINOL
24. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan yr Hyrwyddwr mewn perthynas â chymhwysedd i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth neu ganlyniad y Gystadleuaeth yn derfynol ac ni ymatebir i ohebiaeth. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i wahardd ceisiadau i’r Gystadleuaeth sy’n torri’r Telerau ac Amodau hyn. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo, gohirio neu ddiwygio’r Rhaglen neu’r Gystadleuaeth neu’r Telerau ac Amodau os bydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth yn golygu bod yn rhaid iddo wneud hynny.
25. Bydd ysgolion yn gyfrifol am unrhyw atebolrwydd o ran treth, neu unrhyw effaith ariannol neu gyllidol arall sy’n codi o ganlyniad i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth a/neu dderbyn unrhyw wobr. Ni fydd gan yr Hyrwyddwr unrhyw atebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd neu effaith o’r fath.
26. Caiff enwau’r ysgolion buddugol eu cyhoeddi ar wefan Gadewch i ni Gyfrif! yr Hyrwyddwr ar ôl 20 Mehefin 2021.
27. Yr Hyrwyddwr yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sydd wedi’i lleoli yn 1 Drummond Gate, Pimlico, Llundain SW1V 2QQ.
28. Caiff y Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw faterion, anghydfodau neu hawliadau sy’n deillio ohonynt neu mewn perthynas â nhw (boed yn gontractiol eu natur ai peidio) eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr, a byddwch chi a ni yn ymostwng i awdurdodaeth benodol llysoedd Cymru a Lloegr.
RHEOLAU CYNNWYS
Rhaid i’r holl geisiadau i’r Gystadleuaeth gydymffurfio â’r rheolau canlynol:
FFORMAT
DYLECH sicrhau’r canlynol:
- Bod eich delwedd(au) yn un o’r fformatau canlynol: png, gif, jpg, jpeg, doc, pdf;
- Bod eich fideo yn un o’r fformatau canlynol: MPEG, mov, mp3, mp4, wav;
- Nad yw maint ffeil y ddelwedd/fideo yn fwy na 50MB;
- Nad yw’r fideo yn hwy na 60 eiliad.
POBL
DYLECH:
- sicrhau bod unrhyw oedolion y gellir eu hadnabod yn eich cais wedi rhoi eu caniatâd, gan gadarnhau eu bod yn cytuno i gael eu cynnwys yn y cais ac i’r ffyrdd posibl y caiff y cais ei ddefnyddio gan yr Hyrwyddwr yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn;
- sicrhau bod unrhyw blant (dan 16 oed) y gellir eu hadnabod yn eich cais wedi cael caniatâd rhiant/gwarcheidwad yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’w blentyn gael ei gynnwys yn y cais ac i’r ffyrdd posibl y caiff y cais ei ddefnyddio gan yr Hyrwyddwr yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn;
DYLECH
- sicrhau bod eich cais (a’r cyflwyniad/arddangosiad sydd wedi’i gynnwys yn eich cais) yn bodloni’r gofynion canlynol:
- rhaid iddo gynnwys gwaith gwreiddiol staff a disgyblion yn eich ysgol;
- rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw beth amhriodol, tramgwyddus neu anghyfreithlon neu a all niweidio enw da’r ysgol, yr Hyrwyddwr neu ei wasanaethau, neu unrhyw berson arall (fel y pennir gan yr Hyrwyddwr yn unol â’i ddisgresiwn llwyr);
- rhaid iddo beidio â chynnwys, hwyluso, cyfeirio at neu ddefnyddio deunydd sy’n hybu rhagfarn, hiliaeth, casineb neu niwed yn erbyn unrhyw grŵp neu unigolyn, na hybu unrhyw fath o wahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail hil, rhywedd, ethnigrwydd, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, cyfeiriadedd gwleidyddol, dinasyddiaeth, llinach, statws priodasol neu oedran (fel y pennir gan yr Hyrwyddwr yn unol â’i ddisgresiwn llwyr);
- rhaid iddo beidio â chynnwys feirws, ysbïwedd, maleiswedd, neu god niweidiol arall.